Mae ein Cyngor Iechyd a Lles yn gyfrifol am hyrwyddo ffordd o fyw iach o fewn yr Ysgol. Nhw yw ein Llysgenhadon Efydd hefyd, sy'n arwain sesiynau ymarfer corff.
The Health & Wellbeing Council are responsible for promoting a healthy lifestyle within our school. The are also our Bronze Ambassadors and are responsible for leading exercise sessions.
Llangeitho
Llangeitho
Rhos y Wlad
Rhos y Wlad
Yn ystod gwasanaeth yn hyrwyddo bod diwrnod iechyd meddwl ar y degfed o Hydref, cyflwynwyd amserlen ar gyfer clwb iechyd a lles boreol. Gweler yr amserlen isod.
During an assembly to promote mental health day being held on the tenth of October, a timetable was introduced for a morning health & wellbeing club. You can see the timetable below.
Derbyniodd y cynghorau Iechyd a Lles £250 gan y Cyfeillion i wario ar offer amser chwarae er mwyn hybu lles pob disgybl. Cyn cynnal cyfarfodydd gyda'r pwyllgor, fe holwyd am syniadau gan bawb yn yr ysgol ar ffurf Jamboard. Gweler y syniadau isod.
The Health & Wellbeing Councils received £250 from the Cyfeillion to spend on playtime equipment to promote every pupil's wellbeing. Before the committees held a meeting, they asked for everyone's ideas during a virtual assembly. You can find their ideas on the Jamboard below.
Cynhaliodd y cyngor Iechyd a Lles gyfarfod ar y cyd er mwyn penderfynu beth i'w brynu.
The Health & Wellbeing council held a meeting to decide on a final list of items to purchase.